SL(6)690 – Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025
Cefndir a diben
Sefydlodd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 y fframwaith a’r trefniadau gweithredol ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi (“TGT”), a ddisodlodd dreth dirlenwi y DU yng Nghymru yn 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig o TGT ar gyfer gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2026 neu wedi hynny, fel a ganlyn:
- Y gyfradd safonol yw £130.75 y dunnell (wedi’i chynyddu o £126.15 y dunnell),
- Y gyfradd is yw £8.65 y dunnell (wedi’i chynyddu o £6.30 y dunnell)
- Y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £196.15 y dunnell (wedi’i chynyddu o £189.25 y dunnell).
Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2025 neu wedi hynny ond cyn 1 Ebrill 2026 yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r cyfraddau a bennir yn Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025.
Y weithdrefn
Gwneud cadarnhaol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r Rheoliadau o fewn 28 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.
Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn nodi bod rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â threthi datganoledig i Gronfa Gyfunol Cymru.
ACC sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r tair cyfradd ar gyfer TGT o 1 Ebrill 2026.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Rhagfyr 2025